I'r Bî.
1 A mi 'n glaf er mwyn gloew-ferch
2 mew[n] llwyn yn prydu swyn serch
3 Ddiwarnawd pybyrwawd bill
4 ddichwerw wybr ddechreu Ebrill
5 A'r eos ar îr wiail
6 ar fwyalch deg ar fwlch dail
7 Bardd coed mewn trefn-oed y trig
8 a bron-fraith ar îr bren-frig.
9 Cyn y glaw yn canu 'n glau
10 ar lwys bancr eur-lais bynkiau
11 A'r hedydd lonydd ei lais
12 Cocyll-lwyd edn cu call-lais
13 Yn myned mewn lludded llwyr
14 a chywydd entrych awyr
17 Minnau fardd rhiain feinir
18 yn llawen iawn [mewn] llwyn îr
21 Addwyned gweled y gwydd
22 gwaisc nwy yn dwyn gwisc newydd
23 Ac egin gwîn a gwenith
24 ar ol glaw araul a gwlith.
25 A dail glas ar dâl y glyn
26 ar draen-wydd yn ir drwyn-wyn.
27 Myn y nef yr oedd hefyd
28 y bi ffelaf edn o'r byd.
29 Yn adeilad brad brydferth
30 ym-mhen-grychedd perfedd perth
31 O ddail a phriddgalch balch borth
32 a'i chymmar yn ei chymmorth
33 Syganai 'r bi cyni cwyn
34 drwyn-llem falch ar y draen-llwyn
35 Mawr yw dy ferw goeg-chwerw gân
36 henwr wrthit dy hunan.
37 Gwell it myn Mair air aren
38 ger llaw tân y gwr llwyd hên
39 [206v] Nog yma ym-mhlith gwlith a glaw
40 yn yr ir-lwyn ar oer-law.
43 Taw ath sôn gad fi'n llonydd
44 ennyd awr oni fo dydd
45 Mawr-serch ar ddiweirferch dda
46 a bair im y berw yma.
41 Dydi bi du yw dy big
42 vffemol edn du ffyrnig
51 Mae i tithau gau gofwy
52 swydd falch a llawer sy fwy
53 Tau nyth fel twyn o eithin
54 tew o ddraen-wydd cryn-wydd crîn
55 Mae it blu brith-ddu cu cyfan
56 a phoen a brad a phen brân
57 Mae lliw it hardd mae lle teg
58 mae llys hagr, mae llais hygeg
59 A phob iaith bybyr-iaith bell,
60 a ddyscodd freith-ddu ascell,
61 Dydi bi du yw dy ben
62 Cymmorth fi od wyt cymmen,
63 Dyro gyngor o'r gorau
64 a wypych i'r mawr-nych mau
65 Ni ddyli fardd anhardd-lun
66 nid oes it gyngor ond un,
67 Dwys iawn fydr dos yn feudwy
68 och wr mul ac na châr mwy
69 Llyma 'nghred gwilied geli
70 o gwelaf nyth byth y bi.
71 Na bydd iddi hi am hyn
72 Nac wy dioer nac aderyn.
Dauidd ap Gwilym.